• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Galw ar Bob Lais Creadigol – Dewch i Siapio Anthem Gateway!

Gan: Anthem Gateway

2

Wyt ti’n gerddor, ffilmwneuthurwr, blogiwr, darlunydd, yn gweithio yn y diwydiant cerdd, neu jest efo profiad a stori werth ei rhannu? Rydym eisiau clywed gennyt ti!

Rydyn ni’n chwilio am leisiau creadigol o bob cwr o Gymru i ddod â syniadau ffres a chynnwys newydd i Anthem Gateway, a gallet ti fod yn rhan o hyn.

Mae’n blatfform ar-lein sy’n cefnogi pobl ifanc yng Nghymru sydd eisiau archwilio gyrfaoedd a chyfleoedd yn y byd cerddoriaeth. O swyddi, i gyngor, i straeon gan bobl sy’n gwneud e eisoes. Gyda dy help di, gallwn ni ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ddod i mewn i’r diwydiant.

Credwn ni fod cerddoriaeth yn rym pwerus ar gyfer hunanfynegiant, tyfu fel person, a lles. Gyda dy greadigrwydd di, gall y Gateway fod yn bont i bobl ifanc i mewn i’r byd cerddoriaeth.

Os wyt ti’n creu unrhyw un o’r rhain, rydyn ni eisiau'r gweithio gyda ti:

  • Blogiau / Erthyglau
  • Podlediadau 
  • Fideos
  • Ffeithluniau 
  • Canllawiau “sut i” 
  • Gwefannau 

Rydyn ni eisiau'r Gateway adlewyrchu pob rhan o Gymru – felly rydym ni’n croesawu’n arbennig bobl o bob cefndir diwylliannol ac ethnig, pob rhyw a chyfeiriad rhywiol, pob cefndir cymdeithasol-economaidd, a phobl sy’n byw gydag anableddau.

Barod i rannu eich syniad?

Anfon e-bost at Richard S Jones – richard.jones@anthem.wales – gyda chyflwyniad byr amdanat ti a syniad o’r math o gynnwys hoffet ti greu, a dechrau cael dy lais a’th syniadau i’w clywed.

 Edrycha ar rai o’n adnoddau newydd isod:

Ready To Record? Get Your Music Out There!

Building Confidence: Essential Tips for Musicians with MADITRONIQUE

For Fans of Anything, Anywhere: The Art of Fanzines and How To Make Them